top of page

Cyd-ddylunio Amgylcheddau Gwydn i Newid Hinsawdd ar gyfer Heneiddio'n Dda: Mewnwelediadau o'r Prosiect OPTIC

Gan Carol Maddock a Merryn Thomas. Cyfieithwyd gan Aelwyn Williams.


Newid hinsawdd yw’r bygythiad iechyd mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth heddiw, ac mae’r peryglon i oedolion hŷn yn uwch am sawl rheswm. Wrth i boblogaeth y DU heneiddio—bydd bron i chwarter ohonom dros 65 oed erbyn 2030— amlygir y bregusrwydd hwn fwy fwy. Daw’r perygl mwyaf i bobl hŷn o broblemau iechyd sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd megis tywydd poeth, llifogydd, a lledaeniad clefydau trofannol, gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (2023) yn rhybuddio y gallai gwres eithafol ar ben ei hun achosi hyd at 10,000 o farwolaethau ychwanegol bob blwyddyn erbyn y 2050au.


Ond beth os gall pobl hŷn fod yn rhan o’r ateb yn hytrach na’r ‘broblem i’w datrys’? Datgelodd prosiect OPTIC (Understanding Older and younger people’s PercepTions and Imaginaries of Climate Change) hynny’n union. Trwy wrando ar ddoethineb a phrofiadau pobl hŷn ochr yn ochr â phobl iau, gallwn nid yn unig baratoi ar gyfer y dyfodol ond hefyd ail-ddychmygu cymunedau sy’n ffynnu yng nghanol newid yn yr hinsawdd. Mae heriau newid hinsawdd yn sylweddol, ond hefyd felly y potensial am atebion arloesol, sy’n ystyried pawb, beth bynnag eu hoed. Diben ein prosiect oedd archwilio sut y gall lleisiau hŷn ac iau gyda’i gilydd ddychmygu a dechrau llunio Prydain wyrddach, fwy gwydn ar gyfer pob cenhedlaeth.

 

Prosiect OPTIC: Dull Creadigol


Nod OPTIC yw cynnwys pobl hŷn ac iau mewn sgyrsiau am newid hinsawdd yn eu cynefinoedd. Nid hawl ddemocrataidd yn unig yw cyfranogiad y cyhoedd mewn trafodaethau o’r fath; mae’n hanfodol ar gyfer gwneud penderfyniadau gwybodus ac ennill cefnogaeth eang i fentrau amgylcheddol. Ond cyfyng iawn yw’r gwaith hyd hyn sy’n hel y safbwyntiau rhwng cenedlaethau a deall ymddygiadau ynghylch newid hinsawdd, yn enwedig  y rhai sy’n ystyried yr amgylcheddau sy’n bwysig iddynt. Amser newid hynny!


I fynd i'r afael â'r bwlch gwybodaeth hwn, daeth ein tîm rhyngddisgyblaethol ym Mhrifysgolion Abertawe ac Aberystwyth at eu gilydd a defnyddio ystod o ddulliau creadigol a chyfranogol i gynnwys pobl dros 65 oed a phobl iau (rhai dan 25 yn bennaf) mewn pum gweithdy ar draws ardal Abertawe, fel y crynhoir yn Ffigwr 1.


Ffigwr 1: Cynllun gwaith OPTIC


Cynnigodd ein dulliau creadigol (creu comics, cyfweliadau symudol, trychu geiriau a collage, byrddau stori) ffyrdd greddfol a hwyliog i archwilio a mynegi profiadau a theimladau. Wrth eu defnyddio, roedd yn bosib creu darlun o sefyllfaoedd cymhleth, yn ogystal â dychmygu dyfodol amgen ar gyfer amgylcheddau cynaliadwy. Wedyn, daethpwyd â’r straeon hyn yn fyw yn Comic yr Hinsawdd, a ddarluniwyd gan Laura Sorvala. Daliodd hwn hanfod ac ysbryd y gweithdai.


Yn dilyn y gweithdai, trefnwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu arweiniodd wedyn at ddigwyddiad dysgu ar y cyd, a ddaeth â chyfranogwyr hŷn, llunwyr polisi, busnesau ac elusennau ynghyd. Penderfynwyd cynnal dau sbrint dylunio (gweithgareddau cydweithredol cyflym i ddod o hyd i atebion i her) yn ystod y digwyddiad hwn i gynhyrchu syniadau ar gyfer creu amgylcheddau sy’n adlewyrchu safbwyntiau pobl hŷn ac iau ar newid hinsawdd yn well. Dylunwyd y sbrintiau gyda tri nod allweddol a dynnwyd o'r comic mewn golwg: meithrin cymunedau sy'n byw, yn gweithio ac yn dysgu gyda'i gilydd; sicrhau tir, môr, ac awyr iach i bawb; a dylunio strydoedd sy'n blaenoriaethu pobl a natur.


Cyfrannodd bob grŵp elfen unigryw trwy gynnwys cyfranogwr nad yw’n ‘ddynol’ yn cynnwys glôb neu dderwen ifanc. Defnyddwyd troellwr gydag opsiynau fel 'plentyn,' 'coeden' neu 'berson hŷn' i ysbrydoli meddwl o safbwyntiau amgen.


Grym Cyfranogiad: Cynnwys Lleisiau Hŷn mewn Gweithredu Hinsawdd


Roedd egwyddor sylfaenol wrth wraidd y prosiect OPTIC: pwysigrwydd cyfranogiad y cyhoedd er mwyn mynd i’r afael â heriau cymdeithasol cymhleth. Trwy flaenoriaethu cyfranogiad a defnyddio dulliau creadigol amrywiol, datgelodd OPTIC safbwyntiau cynnil ar wytnwch hinsawdd a heneiddio. O fyfyrdodau hiraethus ar arferion cynaliadwy'r gorffennol i syniadau arloesol ar gyfer atebion a yrrir gan y gymuned, datgelodd y dulliau cyfranogol hyn ddyfnder ac ehangder ymgysylltiad pobl hŷn ac iau â materion amgylcheddol. Dangosir crynodeb o fewnwelediadau a nodwyd ar draws pedair prif thema yn Ffigwr 2.


Ffigwr 2: Crynodeb o ddyheadau am yr hinsawdd a nodwyd yn ystod gweithdai a digwyddiad dysgu OPTIC.


Rhoddodd OPTIC amser a lle i bobl hŷn ac iau nodi a lleisio'r dyheadau hinsawdd a grynhoir yn Ffigwr 2. Un o’r themáu allweddol oedd hyrwyddo gweithredu a chydweithredu a yrrir gan y gymuned. Yn wir, efallai mai canlyniadau mwyaf trawiadol y prosiect oedd a) yr angen am perthnasoedd newydd a chryfach rhwng cymunedau a rhanddeiliaid, a b) datblygu dulliau i feithrin y rhain (Thomas et al., yn y wasg). Mae hyn wedi’n hysbrydoli i barhau â’r gwaith hwn ac i greu pecyn pellach o weithgareddeddau, ochr yn ochr ag ysgolion a chartrefi gofal yn Ne Cymru. Dewch nôl i glywed am hyn yn y dyfodol agos!


I gael rhagor o fanylion am brosiect OPTIC, cysylltwch â optic@swansea.ac.uk.

0 views0 comments

Commenti


bottom of page